Mae yn yr Iesu drysor mwy

Mae yn yr Iesu drysor mwy
  Nag fedd yr India lawn;
Fe brynodd ini fwy na'r byd,
  Ar groesbren un brydnawn!

Mi dafla' maich i lawr i gyd
  Wrth gofio'i angau loes;
Euogrwydd fel mynyddau'r byd
  Dry'n ganu wrth dy groes.

Os edrych wnaf i'r dwyrain draw,
  Os edrych wnaf i'r de;
Yn mhlith a fu, neu ynte ddaw,
  'Does debyg iddo Fe.

Esgyn a wnaeth i entrych nef
  I eiriol dros y gwan;
Fe dỳn fy enaid inau'n lān
  I'w fynwes yn y man.
William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Caradoc (<1876)
St Stephen (William Jones 1726-1800)

gwelir:
  At wedd dy wyneb nid yw ddim
  'D a' i 'mofyn haeddiant fyth na nerth
  'Dyw'n ofni'r bedd 'dwy'n ofni'r groes
  Mi dafla' 'maich i lawr i gyd
  Mi ymddiriedaf yn ei Air
  Ni feddaf ar y ddaear lawr
  Pan byddo f'Arglwydd imi'n rhoi
  'Rwy'n ffrynd i'r bedd 'rwy'n ffrynd i'r groes
  Yr Iesu mawr yw tegwch byd

In Jesus there is more treasure
  Than full India possesses;
He bought for us more than the world,
  On the wooden cross one afternoon!

I cast my burden down altogether
  While remembering his death pangs;
Guilt like the world's mountains
  Turns to song at thy cross.

If look I do to the yonder east,
  If look I do to the south;
Amongst what was, or even what is to come,
  There is nothing similar to Him.

Ascend he did to the vault of heaven
  To intercede for the weak;
He will draw my own soul completely
  To his bosom soon.
tr. 2013,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~